Mark 3

Iacháu ar y Saboth

(Mathew 12:9-14; Luc 6:6-11)

1Dro arall eto pan aeth Iesu i'r synagog, roedd yno ddyn oedd â'i law yn ddiffrwyth. 2Roedd yna rai yn gwylio Iesu'n ofalus i weld a fyddai'n iacháu'r dyn ar y Saboth. Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i'w gyhuddo! 3Dyma Iesu'n galw'r dyn ato, “Tyrd i sefyll yma'n y canol.”

4Wedyn dyma Iesu'n gofyn i'r rhai oedd eisiau ei gyhuddo, “Beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud sy'n iawn i'w wneud ar y dydd Saboth: pethau da neu bethau drwg? Achub bywyd neu ladd?” Ond wnaeth neb ateb.

5Edrychodd Iesu arnyn nhw bob yn un – roedd yn ddig ac wedi cynhyrfu drwyddo am eu bod mor ystyfnig. Yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Ac wrth i'r dyn wneud hynny cafodd y llaw ei gwella'n llwyr.

6Dyma'r Phariseaid yn mynd allan ar unwaith i drafod gyda chefnogwyr Herod sut allen nhw ladd Iesu.

Tyrfa fawr o bobl yn dilyn Iesu

7Aeth Iesu at y llyn gyda'i ddisgyblion iddyn nhw gael ychydig o lonydd, ond dyma dyrfa fawr yn ei ddilyn – pobl o Galilea, ac o Jwdea, 8Jerwsalem, ac Idwmea yn y de, a hyd yn oed o'r ardaloedd yr ochr draw i'r Iorddonen ac o ardal Tyrus a Sidon yn y gogledd. Roedd pawb eisiau ei weld ar ôl clywed am y pethau roedd yn eu gwneud. 9Gan fod tyrfa mor fawr yno gofynnodd Iesu i'r disgyblion gael cwch bach yn barod, rhag ofn i'r dyrfa ei wasgu. 10Y broblem oedd fod cymaint o bobl oedd yn sâl yn gwthio ymlaen i'w gyffwrdd. Roedd pawb yn gwybod ei fod wedi iacháu cymaint o bobl. 11A phan oedd pobl wedi eu meddiannu gan ysbrydion drwg yn ei weld, roedden nhw'n syrthio ar lawr o'i flaen a gweiddi, “Mab Duw wyt ti!” 12Ond roedd Iesu'n eu rhybuddio nhw i beidio dweud pwy oedd e.

Iesu'n dewis deuddeg i'w gynrychioli

(Mathew 10:1-4; Luc 6:12-16)

13Aeth Iesu i fyny i ben mynydd a galw ato y rhai roedd wedi eu dewis, a dyma nhw'n mynd ato. 14Dewisodd ddeuddeg ohonyn nhw fel ei gynrychiolwyr personol.
3:14 gynrychiolwyr personol: Groeg, “apostolion”. Gellid ei gyfieithu fel negeswyr neu llysgenhadon.
Nhw fyddai gydag e drwy'r amser, ac roedd am eu hanfon allan i gyhoeddi'r newyddion da,
15a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw cythreuliaid allan o bobl. 16Y deuddeg a ddewisodd oedd: Simon (yr un roedd Iesu'n ei alw'n Pedr); 17Iago fab Sebedeus a'i frawd Ioan (“Meibion y Daran” oedd Iesu'n eu galw nhw); 18Andreas, Philip, Bartholomeus, Mathew, Tomos, Iago fab Alffeus, Thadeus, Simon y Selot 19a Jwdas Iscariot (yr un a'i bradychodd).

Iesu a Beelsebwl

(Mathew 12:22-32; Luc 11:14-23; 12:10)

20Pan aeth Iesu yn ôl i'r tŷ lle roedd yn aros, roedd cymaint o dyrfa wedi casglu yno nes bod dim cyfle i'w ddisgyblion ac yntau gael bwyta hyd yn oed. 21Pan glywodd ei deulu am hyn, dyma nhw'n penderfynu fod rhaid rhoi stop ar y peth. “Mae'n wallgof”, medden nhw.

22Roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith, oedd wedi teithio o Jerwsalem, yn dweud amdano, “Mae wedi ei feddiannu gan Beelsebwl, tywysog y cythreuliaid! Dyna sut mae'n gallu bwrw allan gythreuliaid!”

23Felly dyma Iesu'n eu galw draw ac yn eu hateb drwy ddefnyddio darlun: “Sut mae Satan yn gallu bwrw ei hun allan? 24Dydy teyrnas lle mae rhyfel cartref byth yn mynd i sefyll! 25Neu os ydy teulu yn ymladd â'i gilydd o hyd, bydd y teulu hwnnw'n chwalu. 26A'r un fath, os ydy Satan yn ymladd yn erbyn ei hun a'i deyrnas wedi ei rhannu, fydd e ddim yn sefyll; mae hi ar ben arno! 27Y gwir ydy, all neb fynd i mewn i gartre'r dyn cryf a dwyn ei eiddo heb rwymo'r dyn cryf yn gyntaf. Bydd yn gallu dwyn popeth o'i dŷ wedyn. 28Credwch chi fi – mae maddeuant i'w gael am bob pechod, hyd yn oed am gabledd, 29ond does dim maddeuant i'r sawl sy'n cablu yn erbyn yr Ysbryd Glân; mae'r person hwnnw'n euog o bechod sy'n aros am byth.” 30(Dwedodd hyn am eu bod wedi dweud fod ysbryd drwg ynddo.)

Mam a brodyr Iesu

(Mathew 12:46-50; Luc 8:19-21)

31Dyna pryd y cyrhaeddodd mam Iesu a'i frodyr yno. Dyma nhw'n sefyll y tu allan, ac yn anfon rhywun i'w alw. 32Roedd tyrfa yn eistedd o'i gwmpas, a dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae dy fam a dy frodyr y tu allan yn edrych amdanat ti.”

33Atebodd, “Pwy ydy fy mam a'm brodyr i?”

34“Dyma fy mam a'm brodyr i!” meddai, gan edrych ar y rhai oedd yn eistedd mewn cylch o'i gwmpas. 35“Mae pwy bynnag sy'n gwneud beth mae Duw eisiau yn frawd a chwaer a mam i mi.”

Copyright information for CYM